Managing nuclear waste

Ein rôl o ran rheoli gwastraff niwclear.

Sut y caiff mathau gwahanol o wastraff eu rheoli

Rydym yn categoreiddio gwastraff ymbelydrol yn y DU yn ôl ei ymbelydredd.

Gwastraff lefel uchel

Caiff gwastraff lefel uchel ei droi i mewn i ddeunydd sy'n debyg i wydr (gwydreiddio) a'i storio ar safle Sellafield.

Rydym yn rheoleiddio gwastraff uchel ei actifedd ar safleoedd niwclear trwyddedig ar y cyd â'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (un o asiantaethau HSE).

Mae Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban yn ymdrin â materion amgylcheddol ar gyfer safleoedd yn yr Alban.

Gwastraff lefel ganolradd

Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar reoleiddio gwastraff lefel canolradd. Mae hyn yn peri heriau penodol wrth iddo gael ei drin, oherwydd y nifer o fathau gwahanol o wastraff.

Gwastraff lefel Isel

Gwaredir y rhan fwyaf o wastraff lefel isel mewn safleoedd tirlenwi yn y cyfleuster gwaredu gwastraff lefel isel yn Drigg.

Ein rôl o ran rheoli gwastraff niwclear

Rydym yn rheoleiddio sut mae safleoedd niwclear yn gwaredu â'u gwastraff ymbelydrol (gwastraff solet a gollyngiadau i mewn i ddŵr ac i mewn i'r aer) drwy roi trwyddedau sy'n seiliedig ar safleoedd i'r cwmnïau sy'n rhedeg y safleoedd hynny.

Rydym yn sicrhau eu bod yn cynhyrchu cyn lleied o wastraff ymbelydrol â phosibl, ac yn sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i'w terfynau gollwng a gwaredu awdurdodedig.

Rydym yn asesu'r cynigion o safbwynt amgylcheddol er mwyn sicrhau bod gwastraff a becynnwyd yn addas ar gyfer ei storio a'i waredu'n derfynol.

Rydym yn rhyngweithio'n agos â deiliaid trwyddedau niwclear, adrannau'r llywodraeth a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.

Gwneir y rhan fwyaf o'n gwaith mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (un o asiantaethau HSE) ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban.

Datblygu canllawiau rheoleiddio ar y cyd ar reoli gwastraff ymbelydrol

Rydym yn datblygu canllawiau technegol pellach ar y cyd â'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (un o asiantaethau HSE) ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban er mwyn rhoi mwy o fanylion am gynnwys disgwyliedig achosion rheoli gwastraff ymbelydrol.

Allforio a mewnforio

Dysgwch fwy am fewnforio ac allforio gwastraff ymbelydrol.

Cyfleusterau gwaredu

Dysgwch fwy am ein canllawiau ar gyfleusterau gwaredu ar gyfer gwastraff ymbelydrol.

Tir halogedig ymbelydrol

Dysgwch fwy am addasu deddfwriaeth tir halogedig i gynnwys tir halogedig ymbelydrol a'r broses a ddefnyddir i asesu tir y tybir ei fod wedi'i halogi ag ymbelydredd.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ein nodiadau briffio ar wastraff ymbelydrol.