Yn y fan hon, gallwch gael gwybodaeth am lwybrau pysgod a manylion lle i gael gwybod mwy amdanynt.
Llwybrau Pysgod a Chymeradwyo Llwybrau Pysgod
Mae eogiaid (Salmo salar Ll.) a brithyllod môr (Salmo trutta Ll.) yn bysgod mudol sy'n bwysig iawn i'r economi wledig yng Nghymru a Lloegr. Mae eu cylch bywyd cymhleth yn cynnwys pysgod ifanc yn mudo o ddŵr croyw i'r môr ac oedolion yn mudo o'r môr i fannau claddu wyau mewn dŵr croyw.
Cydnabuwyd ers amser hir bod rhaid sicrhau mynediad dirwystr i fannau claddu wyau er mwyn cynnal y poblogaethau pysgod mudol hyn. Yn anffodus, mae llawer o rwystrau gwneud fel argaeau, coredau a melinau, yn rhwystro'r mynediad hwn i ardaloedd claddu wyau.
Cyflwynodd Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 bwerau deddfwriaethol yn gofyn bod rhwystrau newydd, neu'r rheiny a oedd yn cael eu hailadeiladu am dros hanner eu lled, yn cynnwys llwybr pysgod. Roedd yn rhaid i'r llwybr pysgod hwn hefyd gael ei werthuso gan gynrychiolydd y gweinidog cyfrifol, cyn i'r llwybr pysgod gael ei gymeradwyo.
Cymeradwyo
Roedd gan y broses gymeradwyo ddau gam penodol. Yn gyntaf, roedd y dyluniad yn cael ei werthuso cyn adeiladu, ac os oedd yn foddhaol, rhoddwyd cymeradwyaeth amodol. Ar ôl 3 i 5 mlynedd o gasglu data ar weithrediad y llwybr pysgod gellid gwneud cais am gymeradwyaeth derfynol. Os oedd y data'n dangos bod y llwybr pysgod yn gweithio'n foddhaol, yna rhoddwyd cymeradwyaeth derfynol.
Ym 1995 trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am ddyluniadau llwybrau pysgod i Asiantaeth yr Amgylchedd oddi wrth y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd. Caiff dyluniadau am lwybrau pysgod arfaethedig eu cyflwyno trwy gyfrwng swyddfa ardal leol Asiantaeth yr Amgylchedd i grŵp cenedlaethol o arbenigwyr ar lwybrau pysgod sy'n cynghori a ddylid cymeradwyo ai peidio.
Diben y broses gymeradwyo hon yw sicrhau bod strwythurau llwybrau pysgod addas yn cael eu gosod fel bo'r angen. Mabwysiadir ymagwedd gyson p'un a bod y llwybr pysgod yn cael ei adeiladu gan ddatblygwr allanol neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd, ac ni chaniateir i swyddogion lleol ddylanwadu ar y broses gymeradwyo drwy gyfrwng eu presenoldeb ar banel y llwybrau pysgod.
Mewn llawer achos, gellir gwneud arbedion sylweddol o ran cost trwy ddefnyddio dyluniadau profedig a thrwy nodi diffygion yn y dyluniad adeg y cam hwn o'r broses adeiladu llwybr pysgod. Mae rhai dyluniadau a gyflwynir ar gyfer llwybrau pysgod yn annhebygol o weithio'n foddhaol oherwydd dyfnderau dŵr anghywir neu oherwydd sylw annigonol i leoliad y strwythur.
Mae'r grŵp ar lwybrau pysgod yn cynnig cyfle i osgoi'r camgymeriadau drud hyn ac i hyrwyddo'r defnydd o arfer dda wrth roi llwybrau pysgod ar waith.
Dyluniad
Gall problemau â llwybrau pysgod ddigwydd ar unrhyw safle bron lle mae'r gwahaniaeth yn lefel y dŵr i fyny'r afon ac i lawr yr afon o'r strwythur yn fwy na thua 0.5m. Yn nodweddiadol, gellir nodi'r safleoedd hyn trwy bysgod yn neidio'n glir o'r dŵr mewn ymdrech i esgyn y strwythur. Lle bo'r llwybr pysgod yn ddigonol, nid yw pysgod fel arfer yn neidio.
Gall pysgod mawr fel eogiaid aeddfed esgyn strwythurau lle gall cyflymder y dŵr fod dros 5m/eiliad, gan fod cyflymder nofio uchaf a dygnwch pysgodyn fel arfer yn cynyddu yn ôl hyd cynyddol y pysgodyn.
I'r gwrthwyneb, gall pysgodyn bach fel brithyll môr sy'n dychwelyd yn ei flwyddyn gyntaf, sydd yn 0.3m yn ei hyd yn unig, gael anhawster esgyn ffrydiau o ddŵr sy'n fwy na 3.5m/eiliad. Ffactor arall sy'n effeithio ar allu pysgodyn i esgyn llwybrau pysgod yw tymheredd y dŵr. Mae dyfroedd o dymereddau uwch yn cynyddu cyflymder nofio uchaf pysgod ond maent yn lleihau eu dygnwch.
Gall llwybr pysgod gael ei ddylunio i fod yn addas yn dechnegol i bysgod ei ddefnyddio ond os na all y pysgod ddod o hyd i'r llwybr, ni fydd yn effeithiol iawn. Felly, mae'n rhaid i bob dyluniad ar gyfer llwybr pysgod fod yn addas ar gyfer rhywogaeth a maint y pysgod sydd ar gael a hefyd mae'n rhaid iddo ganiatáu i'r pysgod ddod o hyd i'r llwybr pysgod. Mae dulliau amrywiol wedi cael eu defnyddio i ddenu pysgodyn i lwybr pysgod.
Yn gyffredinol, dylid lleoli llwybr pysgod wrth y pwynt naturiol lle mae pysgod yn ymgasglu. Dylai dyluniad y llwybr pysgod hefyd ymgorffori gollyngiad digonol o ddŵr o'r llwybr pysgod i gymharu'n ffafriol â'r llifoedd eraill wrth y strwythur.
Pysgod eraill
Mae pysgod mudol amlwg eraill yn cynnwys llysywod, lamprai a gwangod. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pwysigrwydd caniatáu i rywogaethau pysgod bras symud yn rhydd wedi cael ei gydnabod mwyfwy. Er nad oes pŵer deddfwriaethol sylfaenol ar hyn o bryd i greu llwybrau ar gyfer y rhywogaethau hyn, mae'n cael ei ystyried wrth adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol.
Yn y cyfamser, rydym yn mynd rhagddom i geisio ac annog cymryd cyfleoedd i gynnwys llwybrau ar gyfer y rhywogaethau hyn.
Felly, os oes rhwystr mewn afon sy'n peri problem i daith pysgod, y dewis cyntaf yw ystyried cael gwared arno. Os nad yw hynny'n bosibl neu os oes rhwystr newydd yn yr arfaeth, yna ceir amrywiaeth o atebion posibl.