Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith o reoleiddio'r diwydiant niwclear.
Mae diwydiant cymhleth yn gysylltiedig â gorsafoedd ynni niwclear er mwyn rheoli a chefnogi eu gwaith. Mae'n cynnwys busnesau sy'n cynhyrchu tanwydd ar gyfer gorsafoedd ynni a busnesau sy'n rheoli'r gwastraff ymbelydrol a gynhyrchir ganddynt.
Yn ogystal â gorsafoedd ynni mae gennym adweithyddion niwclear sy'n pweru llongau tanfor y Llynges Frenhinol a chaiff rhai arfau niwclear eu gweithgynhyrchu yn y DU hefyd.
Ceir 32 o safleoedd niwclear trwyddedig yng Nghymru a Lloegr. Caiff y safleoedd hyn eu harchwilio gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (sef un o asiantaethau'r HSE) sy'n gyfrifol am reoleiddio pob agwedd ar ddiogelwch niwclear ar y safleoedd hynny.
Ein rôl a'n cyfrifoldebau
Rydym yn goruchwylio sut mae'r 32 o safleoedd hyn yn gwaredu eu gwastraff niwclear drwy roi trwyddedau safle i'r gweithredwyr sy'n rhedeg y safleoedd hynny.
Mae'n rhaid i weithredwyr y safleoedd hyn gael trwydded gennym i waredu gwastraff. Mae'r trwyddedau hyn yn pennu terfynau ac amodau ar faint o wastraff y gellir gwaredu ag ef a'r ffordd y byddant yn gwaredu'r gwastraff hwnnw ac maent yn cwmpasu pob dull o waredu gwastraff niwclear yn cynnwys ei waredu i'r aer ac i ddŵr, a throsglwyddo gwastraff i'w losgi neu ei waredu ar dir.
Rydym hefyd yn gyfrifol am gadw golwg ar safleoedd er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i'w terfynau penodedig a sicrhau eu bod yn rhyddhau cyn lleied o wastraff ymbelydrol â phosibl i'r amgylchedd.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 (EPR2010)
Cyflwynwyd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol newydd ar 6 Ebrill 2010. Maent yn diddymu Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol 1993 yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ni fydd y trefniadau presennol yn newid yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.