Adeiladu

Cyngor ac arweiniad ar gyfer atal llygredd, rheoli gwastraff ac adnoddau’n gynaliadwy ar safleoedd adeiladu, dymchwel a chloddio.

Gall cynllun safle da, rheoli adnoddau, a chymryd camau call er mwyn cadw llygredd i isafswm leihau effaith amgylcheddol eich safle i raddau helaeth iawn.

Atal llygredd

Bob blwyddyn byddwn ni’n ymateb i 350 o ddigwyddiadau difrifol o lygredd a achosir gan waith adeiladu. Mae gan adeiladwyr unigol, mentrau bach/canolig a chwmnïau mwy o faint i gyd gyfrifoldeb dros yr effaith a gânt ar yr amgylchedd. Gellir atal llygredd wrth adeiladu trwy gynllunio’n ofalus a rheoli gweithgareddau ar y safle.

Dilynwch ein cyfarwyddyd er mwyn helpu i gadw’r amgylchedd yn lân ac yn ddiogel.

Gwastraff adeiladu

Anfonwyd oddeutu 20 miliwn tunnell o wastraff adeiladu, dymchwel a chloddio (AD a Ch) i safleoedd tirlenwi yn 2010. Ar ddiwedd 2011 gwastraff AD a Ch oedd y math o wastraff cyfrannol mwyaf mewn safleoedd gwastraff anghyfreithlon.

Mae eich Dyletswydd o Ofal yn ofyn cyfreithiol sy’n berthnasol i ddefnyddio, trin, gwaredu a chludo gwastraff. Mae methu â chydymffurfio â’r gyfraith yn eich gadael yn agored i gosbau yn y llysoedd a gall arwain at effeithiau difrifol ar yr amgylchedd.

Mae rheoli safleoedd yn dda a thrin gwastraff mewn dull wedi’i reoli’n dda yn gwneud synnwyr busnes da, yn cwtogi ar gostau a gwella cydberthnasau â’r gymuned. 

Adeiladu cynaliadwy

Mae adeiladu cynaliadwy’n ymwneud â rheoli adnoddau’n well, ailddefnyddio defnyddiau gwastraff ble y bo modd a lleihau eich ôl troed carbon. Mae’n cynnwys sut mae datblygiadau’n effeithio ar ac yn darparu ar gyfer y seilwaith a’r amgylchedd naturiol amgylchynol yn ogystal ag adeiladwaith adeiladau.

Gall arfer da eich helpu i gyflawni cynaliadwyedd a lleihau costau.

Cynllunio

Bydd awdurdodau lleol yn ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch ceisiadau cynllunio.

Rydym ni’n defnyddio tystiolaeth er mwyn asesu’r risgiau amgylcheddol posibl sy’n gysylltiedig â datblygiad penodol. Er ein bod yn darparu tystiolaeth ac yn cynnig sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio, nid oes gennym y grym i roi nac i wrthod caniatâd ar gyfer datblygiad. Yr Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n berchen ar y rôl hon.

Yn fynych, nid oes digon o wybodaeth wedi’i chynnwys mewn ceisiadau cynllunio i ni fedru pennu pa effaith a gaiff datblygiad ar yr amgylchedd. Gallwch helpu i gyflymu eich cais cynllunio trwy lenwi ffurflen cyn-ymgeisio.

Bywyd gwyllt a chadwraeth

Cyn i waith ddechrau ar safle adeiladu, mae angen i chi wybod sut i warchod planhigion ac anifeiliaid a sut i waredu rhywogaethau ymledol. 

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni’n gynnar er mwyn sicrhau fod gennych yr holl ganiatadau a thrwyddedau angenrheidiol cyn i chi ddechrau gweithio. Gall gymryd hyd at bedwar mis i drefnu i’r rhain fod yn eu lle.

Business environmental update

Sign up for monthly environmental updates.

Keep up to date with environmental regulations and guidance that affects your business.