Sut yr ydym yn gorfodi Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr yn ei lle i leihau’r risg o lifogydd oherwydd methiant argaeau a chronfeydd a pherygl i fywydau pobl. Ein rôl ni yw sicrhau bod perchenogion a gweithredwyr yn cydymffurfio.
Fel yr awdurdod rheoleiddio mae’n ofynnol i ni:
- gadw cofrestr o gronfeydd a sicrhau ei bod ar gael i’r cyhoedd
- sicrhau bod cronfeydd yn cael eu dylunio a’u hadeiladu dan oruchwyliaeth peiriannydd adeiladu
- sicrhau bod cronfeydd nad ydynt yn cael eu hadeiladu yn cael eu goruchwylio gan beiriannydd goruchwylio
- sicrhau bod cronfeydd yn cael eu harolygu yn gyson gan beiriannydd arolygu
- sicrhau bod gwaith hanfodol sy’n ofynnol ‘er budd diogelwch’ yn cael ei wneud mor fuan ag sy’n ymarferol dan oruchwyliaeth peiriannydd arolygu
- dylanwadu, rhybuddio, hysbysu ac erlyn perchenogion a gweithredwyr nad ydynt yn cydymffurfio
- comisiynu peirianwyr adeiladu, goruchwylio ac arolygu a gwaith hanfodol sy’n ofynnol ‘er budd diogelwch’ pan fydd perchenogion a gweithredwyr wedi methu cymryd camau addas ac adfer costau a dynnwyd gan y perchennog neu weithredwr
- cynhyrchu adroddiad bob dwy flynedd am ein gweithgareddau gorfodi a gweithredu i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru
- gweithredu mewn argyfwng os bydd y perchennog neu weithredwr yn peidio â chymryd camau addas
- Penodi peiriannydd panel cronfa
- Adroddiad dwyflynyddol ar ddiogelwch cronfeydd dwr: 1 Ebrill 2009 tan 31 Mawrth 2011 (PDF, 498KB)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Cronfeydd.