Eithriadau Trin Gwastraff ar gyfer ffermwyr

Detholwch deitl yr eithriad sydd o ddiddordeb i chi er mwyn darllen ei derfynau a’i amodau.

Nid yw’r enghreifftiau o weithgareddau’n cynnwys popeth, darllenwch y terfynau ac amodau llawn er mwyn canfod beth fedrwch chi ei wneud a beth na fedrwch.

T5 - Sgrinio a chyfuno gwastraff

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Trin gwastraff er mwyn gwneud amnewidyn pridd.

T6 - Trin pren gwastraff a defnydd planhigion gwastraff trwy asglodi, torrin fân, torri neu falurio

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Asglodi defnydd lapio pren heb ei drin er mwyn gwneud gwasarn anifeiliaid.

T7 - Trin brics, teils a choncrit gwastraff trwy falu, llifanu neu leihau maint

Gellir cofrestru’r eithriad hwn yn unig gyda’ch awdurdod lleol yn yr ardal ble lleolir eich busnes.

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Malu brics a choncrit er mwyn gwneud craidd caled i’w ddefnyddio ar gyfer ffyrdd neu mewn sylfeini adeiladau.

T13 - Trin bwyd gwastraff

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Datod a swmp-grynhoi bwydydd gwastraff ar fferm gyda gweithfa becynnu.

T14 - Gwasgu a gwagio hidlenni olew cerbyd gwastraff

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Defnyddio uned gwasgu hidlenni olew er mwyn lleihau maint hidlenni olew a gwahanu’r olew.

T19 - Trin olew a braster bwytadwy gwastraff yn ffisegol er mwyn cynhyrchu biodisel

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Hidlo. Cymysgu a phoethi olewau llysiau gwastraff er mwyn gwneud tanwydd amgen ar gyfer cerbydau modur.

T23 - Compostio erobig a rhagdriniaeth gysylltiedig

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:

  • Compostio defnydd planhigion gwastraff a gwasarn anifeiliaid. 

T24 - Treulio anerobig mewn eiddo a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth a llosgi’r bionwy canlyniadol

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn: 

  • Sefydlu cyfarpar treulio anerobig ar eich fferm a defnyddio’r nwy i wresogi adeiladau neu gynhyrchu pŵer.

T27 - Trin dip defaid i’w waredu 

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn:  

  • Defnyddio Landguard OP-A er mwyn trin dip defaid.

T29 - Trin golchion plaleiddiaid diberygl drwy hidliad carbon i’w gwaredu

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn: 

  • Trin golchion plaleiddiaid mewn uned gwyliedydd.

T32 - Trin gwastraff mewn biowely neu fio-hidlwr

Enghraifft o weithgarwch fferm a rychwantir gan yr eithriad hwn: 

  • Trin golchion plaleiddiaid mewn biowely â leinin.

Mathau eraill o eithriadau gwastraff