Trin a gwaredu gwastraff peryglus

Sut i drin neu waredu gwastraff peryglus.

Hierarchaeth gwastraff

Dylech anelu at atal gwastraff peryglus rhag cael ei gynhyrchu oherwydd hyn sy’n debygol o fod y dewis amgylcheddol gorau’n gyffredinol. Gosodir yr egwyddor hon allan gan yr hierarchaeth gwastraff, sydd ar hyn o bryd yn ofyn ar gyfer pob gosodiad IPPC ond a fydd yn berthnasol i bawb arall o 28 Medi. Rhaid i chi ystyried hyn cyn i wastraff peryglus gael ei symud:

Cymysgu

Rhaid i’ch gwastraff peryglus beidio â chael ei gymysgu na’i wanhau gyda gwastraff peryglus arall, gwastraff diberygl nac unrhyw beth arall, oni bai fod gennych ganiatâd priodol ac y mae’r gweithgarwch hwn yn cydymffurfio â’r technegau gorau sydd ar gael (BAT). Yn niffyg caniatâd, rhaid i chi wahanu  gwastraff peryglus a gafodd ei gymysgu ble y bo modd. Mae Defra wedi cynhyrchu dogfen sy’n egluro’r rheolau hyn yn fanylach:

Trin

Os bwriedir anfon eich gwastraff i’w drin, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod y safle ble’r ydych yn ei anfon wedi’i ganiatáu i’w dderbyn.

Gallwch ganfod gwybodaeth bellach ynghylch y mathau o driniaeth gwastraff sydd ar gael a sut y rheolir hyn ar ein tudalennau Trin a Storio Gwastraff IPPC:

Tirlenwi

Os ydych chi eisiau gwaredu gwastraff peryglus trwy ei dirlenwi yna mae angen i chi sicrhau y bydd y gwastraff yn:

  • mynd i’r safle a awdurdodir yn gywir i’w drin a’i waredu
  • bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Tirlenwi ac amodau’r caniatâd tirlenwi

Rhaid i’r gwastraffau gael eu trin cyn eu gwaredu mewn safle tirlenwi. Diffinnir y rhagdriniaeth hon yn y Gyfarwyddeb Tirlenwi.

Rhaid i chi nodweddu’r gwastraff er mwyn gwirio y bydd yn bodloni’r meini prawf derbyn gwastraff. Diffinnir y profion a’r meini prawf hyn yn y Gyfarwyddeb Tirlenwi. Mae gweithdrefnau trwyadl yn eu lle os yw eich gwastraff yn methu â bodloni meini prawf derbyn gwastraff tirlenwi a chytunwn nad oes llwybrau adennill a gwaredu amgen ar gael.

Gallwch ganfod gwybodaeth ynghylch pob un o’r gofynion Cyfarwyddeb Tirlenwi hyn ar ein tudalennau sector tirlenwi:

Gallwch lawrlwytho rhestr o safleoedd tirlenwi sydd wedi’u caniatáu i dderbyn gwastraff peryglus a gypswm: