Mae cyfrifoldeb y cynhyrchwr yn ymwneud â sicrhau fod busnesau sy’n gweithgynhyrchu, mewnfudo a gwerthu cynnyrch penodol yn gyfrifol am y cynnyrch hynny unwaith y byddant yn wastraff.
Yn y Deyrnas Unedig mae cyfraith cyfrifoldeb y cynhyrchwr yn cwmpasu deunydd pacio, cyfarpar trydanol ac electronig (EEE), batris a cherbydau. Mae rheoliadau cyfrifoldeb cynhyrchwr yn annog lleihad gwastraff o’r cynnyrch hyn ac yn hyrwyddo eu hailddefnyddio. Maent hefyd yn gosod targedau ar gyfer adfer ac ailgylchu deunyddiau gwastraff.
Rydym yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiad sawl agwedd o’r rheoliadau cyfrifoldeb y cynhyrchwr..
Os gwyddoch am fusnes nad yw’n cydymffurfio â’i gyfrifoldebau fel cynhyrchwr, ffoniwch ni ar 0800 023 2090 a bydd neges wedi ei recordio yn gofyn i chi adael manylion.
Dilynwch y dolenni am ragor o wybodaeth ar bob math o gynnyrch: