Cofrestrwch neu adnewyddwch fel cynhyrchwr neu ddaliwr gwastraff peryglus

Manylion ynghylch sut i gofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus. Mae hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Nid yw’n ofynnol i gofrestru yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

A oes angen i mi gofrestru fy eiddo?

Os ydych yn cynhyrchu neu’n dal gwastraff peryglus mewn unrhyw eiddo yng Nghymru a Lloegr rhaid i chi ei gofrestru bob blwyddyn, oni bai fod y cyfanswm yn dod i lai na 500kg bob blwyddyn. 

Pwyntiau allweddol:

  • Mae’r cofrestriad yn ddilys am 12 mis a rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn. 
  • Mae pob math o eiddo sy’n cynhyrchu neu ddal llai na 500kg o wastraff peryglus mewn blwyddyn wedi’u heithrio rhag cofrestru. Nid oes angen i chi ddweud wrthym eich bod wedi’ch eithrio. 
  • Nid yw’n ofynnol i eiddo yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon  gofrestru. 
  • Mae’r rheoliadau'r un peth yng Nghymru a Lloegr.

Gallwch gaffael mwy o wybodaeth oddi wrth ein dogfen gyfarwyddyd a’r datganiad safbwynt rheoliadol ategol isod:

Ar gyfer eiddo amaethyddol yn unig ni fyddwn yn cyfrif pwysau cerbydau diwedd oes (cerbydau sgrap) fel pwysau sy’n cyfrif tuag at y trothwy 500kg.

Os ydych yn gweithredu gwasanaeth symudol dylech ddarllen yn ogystal:

Os ydych yn cynhyrchu neu’n derbyn gwastraff peryglus gall fod angen caniatâd arnoch o dan y Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol yn ogystal:

Cofrestru neu adnewyddu cofrestriad

Gallwch gofrestru eich eiddo eich hun neu gallwch wneud hyn ar ran rhywun arall. Fodd bynnag, cyn i chi gofrestru rhywun arall, rhaid i chi gaffael eu caniatâd nhw. Cynhyrchwyr yng Nghymru a Lloegr yn unig sy’n gorfod cofrestru, nid oes yn rhaid i safleoedd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gofrestru.

Mae cofrestriadau’n para am un flwyddyn a gallwch chi adnewyddu cofrestriad hyd at fis cyn iddo ddirwyn i ben. Mae’r ffioedd a godir am gofrestriadau yn cwmpasu ein costau gweinyddu’n unig ac felly ni allwn ni wneud ad-daliad i safleoedd a gofrestrwyd yn anghywir.

Er mwyn cofrestru eich eiddo, bydd angen i chi wybod y

Byddwch angen eich rhif Tŷ’r Cwmnïau yn ogystal os ydych yn gwmni cyfyngedig:

Gallwch gofrestru neu adnewyddu yn un o’r dulliau canlynol

  • Ar-lein (£18 y safle) (am bum safle neu’n llai)
    Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd arnoch (nid ydym yn derbyn American Express na Diners Card). Nid yw’r system cofrestru ar-lein yn gweithio yn y modd gweld testun yn unig. Am fwy na phum safle, edrychwch ar yr wybodaeth ynghylch cofrestru mewn crynswth. 
  • dros y ffôn (£23) neu postiwch ffurflen gais (£28) 
  • mewn crynswth (£18 ar gyfer bob cofrestriad) (Am fwy na phum safle)

Ein rhif ffôn ar gyfer cwestiynau ynghylch cofrestru

Ffoniwch 08708 502 858 rhwng 8yb a 6yp (unrhyw ddiwrnod gwaith heblaw am Ddydd Gwener y Groglith, Dydd Nadolig, gwyliau’r banc neu wyliau cyhoeddus eraill).

Am fwy o wybodaeth ynghylch cofrestru eich eiddo, gweler ein dogfen ganllaw isod:

Gwirio eich cofrestriad cynhyrchwr

Gallwch wirio fod safle wedi’i gofrestru trwy chwilio’r Cofrestrau Cyhoeddus. Detholwch 'gwastraff peryglus' o’r blwch cwymplen.

Mae’n drosedd i gludo gwastraff peryglus o eiddo oni bai ei fod wedi’i gofrestru neu ei eithrio.

Rhaid i gludwr gwastraff fod yn fodlon bod y cynhyrchwr wedi’i eithrio o’r gofyn i gofrestru cyn iddynt gludo’r gwastraff ymaith a dylent gaffael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth y cynhyrchwr y bydd yr eiddo wedi’i eithrio pryd gwneir y casgliad. Dylai’r cludwr ystyried yn ogystal faint maent yn ei gasglu a pha mor aml.

Customers in Wales

On 1 April 2013 Natural Resources Wales (NRW) will take over the responsibilities of the Environment Agency in Wales.

To support NRW we will continue to provide this online service until it can be moved to their website.

Please contact NRW with any queries or feedback about this service.