Gwastraff peryglus

Os ydych chi’n cynhyrchu, cludo neu dderbyn gwastraff peryglus cewch eich rheoleiddio gan y Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Diweddariad - Awst 2011

Mae gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig wedi dwyn rhai newidiadau yn ei sgil i’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus. Daethpwyd â’r newidiadau hyn i rym gan Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 a Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.

Rhestrir y newidiadau pwysig i sut y rheolir gwastraff peryglus isod a daethant yn effeithiol ar 29 Mawrth 2011:

  • Gellir cymysgu gwastraff peryglus dim ond os ydych yn dal caniatâd addas sy’n eich caniatáu i wneud hyn a rhaid i’r gweithgarwch gydymffurfio â Thechnegau Gorau Sydd Ar Gael (BAT).
  • Cyflwynwyd priodwedd beryglus newydd (H13 sensiteiddio) a bydd angen ei ddefnyddio wrth asesu gwastraff peryglus.
  • Ceir newidiadau i’r gofynion cadw cofnodion, yn arbennig ar gyfer broceriaid.

Daeth y newidiadau canlynol i mewn ar 28 Medi 2011:

  • Diwygiwyd y nodyn llwyth a symleiddiwyd y weithdrefn llwythi lluosog. 
  • Rhaid ystyried yr hierarchaeth wastraff a’i chymhwyso yn nhrefn blaenoriaeth pan drosglwyddir gwastraff peryglus.
  • Ar gyfer gwastraff a dderbyniwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwn rhaid dilyn gweithdrefnau diwygiedig ar gyfer ffurflenni adrodd  derbynwyr.

Gallwch ganfod manylion llawn ynghylch y newidiadau hyn yn y tudalennau gwe canlynol:

Rydym hefyd wedi cydgasglu rhai cwestiynau cyffredin ynghylch y newidiadau i wastraff peryglus o dan y rheoliadau newydd:

Beth yw gwastraff peryglus?

Canfyddwch beth yw gwastraff peryglus a darllenwch gyfarwyddyd technegol WM2,er mwyn pennu p’un ai yw eich gwastraff chi’n wastraff peryglus. 

Os ydych chi’n cynhyrchu, neu’n rheoli gwastraff peryglus, canfyddwch:

Sut i gofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus

Mae’n bosibl bydd yn rhaid i eiddo yng Nghymru a Lloegr ble bwriedir cynhyrchu neu gadw gwastraff peryglus gofrestru bob blwyddyn (Diweddarwyd – newidiwyd y rheoliadau yn Ebrill 2009).

Dulliau o reoli sut cesglir a symudir  gwastraff peryglus

Rhaid cwblhau nodyn llwyth i fynd gyda gwastraff peryglus pan gaiff ei symud o unrhyw eiddo. Canfyddwch fwy ynghylch gweithdrefnau nodiadau llwyth a rôl y cynhyrchwr, y cludwr a’r derbyniwr.

Cadw cofnodion o wastraff peryglus

Rhaid i chi gadw cofnodion penodol ynghylch eich gwastraff peryglus. Canfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud yma.

Os ydych yn derbyn gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn rhyw le arall neu’n adennill/gwaredu eich gwastraff peryglus eich hun, canfyddwch fwy am:

Dderbyn gwastraff peryglus

Canfyddwch pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei hanfon i’r cynhyrchwr gwastraff ac i ninnau, gan roi manylion ynghylch symud, gwaredu ac adennill gwastraff.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch tirlenwi gwastraff peryglus; datganiadau safbwynt rheoliadol, sy’n rhoi manylion ynghylch ein safbwynt ar bynciau pwysig a’r atebion rydym ni’n galw amdanynt; rhanddirymiadau, ble mae’n rhaid i ffurflen derbyniwr gael ei chwblhau mewn dull gwahanol ar gyfer mathau penodol o wastraff; cwestiynau cyffredin; a phynciau gwastraff peryglus eraill.