Peidiwch â gadael i lifogydd foddi eich busnes. Mae llifogydd yn un o’r trychinebau mwyaf cyffredin ac eang eu rhychwant ac maent yn tyfu o ran amlder a gerwinder o ganlyniad i effaith cynhesu byd-eang.
Gweithredoedd syml er mwyn gwarchod eich busnes
1. Canfyddwch a yw’ch busnes chi mewn perygl
Teipiwch eich cod post yn y blwch 'Map Llifogydd' ar y dde er mwyn canfod p’un ai yw eich busnes chi mewn perygl o lifogydd. Neu, galwch Linell Llifogydd ar 0845 988 1188.
2. Byddwch yn wybodus - cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd
Rydym yn cynnig gwasanaeth o’r enw Rhybuddion Llinell Llifogydd Uniongyrchol mewn ardaloedd mewn perygl uchel o lifogydd. Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n darparu rhybuddion llifogydd yn uniongyrchol i chi drwy’r teleffon, ffôn symudol, neges testun SMS a ffacs. Gallwch gofrestru ar-lein.
3. Byddwch yn barod – diogelwch eich busnes rhag llifogydd
Mae eich busnes yn fwy tebygol o gael ei orlifo nag i losgi i’r llawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn paratoi nawr. Lluniwch gynllun a fydd yn cadw eich cwmni i fynd pe digwydd y gwaethaf.