Ein hymrwymiadau i chi

Egwyddorion ein gwasanaeth

Rydym wedi gwrando ar farn ein cwsmeriaid i ddatblygu egwyddorion i’w dilyn wrth ddarparu gwasanaethau.  Rydym hefyd wedi ceisio dysgu oddi wrth sefydliadau eraill sydd ag enw da am ddarparu gwasanaeth da – dymunwn wneud y broses o wneud busnes gyda ni yn brofiad da. 

Rydym yn hygyrch

Mae ein rhifau ffôn Floodline a’r Llinell Digwyddiadau ar gael 24 awr y dydd.  Mae oriau gwaith ein prif swyddfa o 9.00am i 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae ein Canolfan Genedlaethol Cyswllt â’r Cwsmer ar agor o 8.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Mae cofrestrau cyhoeddus sy’n cadw gwybodaeth amgylcheddol leol ar gael yn ein swyddfeydd rhwng 9.30am a 4.30pm. 

Rydym yn wybodus ac yn awdurdodol

Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod ein staff yn wybodus, yn ddibynadwy ac yn hyderus a bod yr wybodaeth a roddant i chi yn gyfoes.

Rydym yn atebol

Bydd ein staff fel arfer yn gwisgo bathodynnau enw (mae rhai staff yn cario cardiau adnabod yn lle hynny) ac yn rhoi eu henwau ar y ffôn ac ym mhob llythyr a neges e-bost. 

Rydym yn deg ac yn gynhwysol

Byddwn bob amser yn ceisio eich trin yn deg ac yn gyson.  Rydym yn cydnabod bod gennym ystod eang o gwsmeriaid gydag anghenion gwahanol, ac anelwn at sicrhau nad oes unrhyw beth yn rhwystro pawb rhag derbyn yr un gwasanaeth da.  Rydym yn darparu gwasanaeth yn y Saesneg a’r Gymraeg i gwsmeriaid sy’n byw yng Nghymru ac o dan delerau ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Rydym yn darparu mynediad i’n safleoedd i’r rhai hynny gydag anableddau.  I’r rhai trwm eu clyw, mae gwasanaeth minicom ar gael drwy alw 03702 422 549.  Gallwn ddarparu ar gyfer eraill o fewn ein cymdeithas amrywiol, drwy gynnig cyfieithiadau o wybodaeth ysgrifenedig berthnasol.  Gallwn hyd yn oed siarad â chi yn yr iaith a ffafrir gennych gan ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu gan Language Line (cwmni sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu cyfrinachol dros y ffôn mewn dros 150 o ieithoedd).

Rydym yn gwrtais, yn sensitif ac yn foneddigaidd

Dymunwn ddeall eich anghenion yn llawn.  Bydd ein staff yn ymddwyn mewn modd cwrtais a phroffesiynol, ac yn parchu eich hawliau.  Yn dâl am hynny disgwyliwn i’n staff gael eu trin yn briodol.  Ni fyddwn yn goddef camdriniaeth lafar na chorfforol yn eu herbyn.